Croes eglwysig

Map Google (uchod) yn dangos lleoliad y croesau eglwysig yng Nghymru.

Croes garreg, Gristnogol, a grefiwyd yn gywrain o garreg yn y Canol Oesoedd cynnar ydy croes eglwysig (Saesneg: high cross). Fe saif ar ei ben ei hun, yn symbol Cristnogol, mewn eglwys. O Iwerddon y daeth yr arferiad, mae'n debyg, ac mae rhai ohonyn nhw'n cynnwys cylch o amgylch canol y groes, a elwir yn groesau Celtaidd. Roedd sawl mynachdy yn Ne Cymru a oedd yn gwneud y gwaith ac fel y gwelir ar y map ychydig iawn o groesau a geir yng Ngogledd Cymru a dim yn y canolbarth. Ceir hefyd croesau coffa o'r 20ed ganrif.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search